Tudalen:Madam Wen.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olwg daclus oedd ar y meysydd ar bob llaw. "Beth ydyw enw'r tyddyn yma? meddai.

Allwyn Goch ydyw hwn. Dyna Allwyn Ddu yr ochr arall i'r ffordd. Mae Allwyn Wen draw yna, yn nes i'r llyn," meddai'r llanc siaradus, wrth ganfod mai dyn dieithr oedd yno.

"O, yn wir. A pha lyn ydyw hwnnw?" meddai'r siryf, wedi cael pen y llinyn.

Llyn Traffwll ydyw'r nesaf yma. Llyn Llewelyn yn nesaf ato, a Llyn Dinam yr ochr draw."

"Aie! Ai nid am Lyn Traffwll y mae cryn sôn drwy'r sir, dywedwch i mi?

Wn i ddim yn wir, welwch chwi," meddai'r llanc, a buasai'n cymryd un llawer mwy chwim na'r gŵr o Fiwmaris i ganfod dim ond diniweidrwydd yn ei wedd.

"Ai nid yng nghyffiniau'r llyn yma y mae Madam Wen yn byw?

'Felly mae'r sôn," oedd yr ateb. Ac yr oedd rhywbeth yng ngwên y gŵr ieuanc ac yn null ei atebiad a awgrymai mai rhywbeth yn debyg i hynny a ddywedai plant yr ardal wrth chwarae.

"Sut un ydyw hi?"

Chwarddodd y llanc. Mae hi'n bob llun, onid ydyw? Maent yn dweud pan fydd hi'n mynd yn gyfyng arni ar y lan y bydd hi'n troi'n alarch ac yn nofio'r llyn. Mi glywais ddweud ei gweled hi un noson yn ehedeg allan o ffenestr Traffwll ar lun dylluan." "Yn ddigellwair yrwan," meddai'r siryf, gan gofio ei neges yn y fro, "a welsoch chwi hi erioed?"

Ond ni fedrai mab Allwyn Goch deimlo difrifoldeb ar destun o'r fath. "'Does yma fawr neb na fydd o 'n ei gweld hi wedi machlud haul; yn enwedig mewn lle go anial. Yr ydych chwithau, syr, yn rhwym o'i gweld hi, mi gymra fy llw, wedi cymaint o sôn amdani â hyn."

Aeth y siryf ymlaen, ac i ymgom â gŵr arall, ond ni fu ddim yn ei fantais. A phan gofiai am ddull