Tudalen:Madam Wen.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a geiriau Morys Williams wrth sôn am yr un person, braidd na siglid ei ffydd yntau fod y fath berson â Madam Wen yn bod yn y cnawd. Ac eto, oni ddaethai ar draws gwlad ar orchymyn i chwilio amdani? Y fath ffolineb a siaradai'r bobl! Ac eto!

Cyn hir daeth yn ei dro at Dafarn y Cwch. Eisteddai Siôn Ifan ar fainc y tu allan i'r drws, yn mwynhau hanner awr o seguryd. Adwaenai'r tafarnwr awdurdod o bell, a chododd i gyfarch y gŵr dieithr yn gynnes ac yn foesgar fel y medrai ef. A dywedyd y gwir, fe wyddai'r hen ŵr yn iawn mai Siryf Môn oedd yr ymwelydd.

Nid oedd yn anodd cario ymddiddan ymlaen rhwng dau ddyn mor gyhoeddus â Siôn Ifan a'r siryf, ac yr oedd yr hen ŵr mewn cywair siarad. Aeth i sôn am y fasnach ŷd, oedd mewn cyflwr llewyrchus ar hyd y glannau o Gaergybi i Afon Fenai, a chanmolodd ŷd Bodedern nad oedd mo'i well y tu fewn i ymylon Môn. Ac o'r naill beth i'r llall cadwyd y gŵr dieithr i wrando am hanner awr heb y cyfle lleiaf i agor y mater y daethai yn ei gylch.

Gresyn," meddai'r siryf, "fod ardal mor glên yn cael ei phoeni gan rai afreolaidd fel mae'r sôn."

"Rhoi gair drwg i gi, a'i grogi! fyddai rhyw ŵr o Sais a adwaenwn yn ddweud," meddai Siôn Ifan. "Ac felly am Lanfihangel-yn-Nhowyn. Mae'r sôn wedi mynd ar led rywsut, ac mae'n anodd darbwyllo pobl mai cam y mae'r ardal yn ei gael. Ond cofiwch nid ydwyf am ddweud nad oes yma rai pobl ddrwg. Mae'r rheini i'w cael ymhobman. Ond mi fydda i yn cael pawb yn glên iawn. Mi fydd gwerth aur yn dyfod i'r tŷ yma, ac ni welais i golli ceiniogwerth erioed. Ar yr un pryd, ni all neb ateb dros ei gymydog ymhob peth. Ond a chymryd pawb at ei gilydd, welais i ddim llawer allan o'i le ar neb yma."

Felly, adwaenoch chwi mo Madam Wen?"

"Ho! Ho! Wel ie! Dyna Madam Wen!" meddai'r tafarnwr, gan newid ei ddull ar unwaith