Tudalen:Madam Wen.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am un llawer ysgafnach. Anghofiais Madam Wen. Rhaid addef mai un beryglus ydyw hi!"

Ni anturiodd y siryf ofyn mwy na hyn. "Beth feddyliwch chwi oedd tarddiad stori mor gyffredinol?" Fedra i ddim dirnad, os na fu yma rywun tebyg i hynny yn byw ryw dro yn yr ardal."

"Gallai hynny fod," meddai'r siryf, a thraddododd ddarlith fer ar ofergoeledd y werin, ac ar darddiad traddodiadau. Ond yr wyf yn deall," meddai wrth derfynu, "fod yn y gymdogaeth yma ogof yn rhywle?"

"Oes, O oes welwch chwi; lle mawr braf," meddai Siôn Ifan, fel pe'n falch o gael dywedyd fod yn Llanfihangel o leiaf un peth â sylwedd ynddo. "Mae hi yn ymyl yma. Fuasech chwi'n hoffi ei gweld hi, syr?

Dywedodd y siryf y buasai.

'Does dim sy hawddach," meddai'r hen ŵr, gan godi ar ei draed. "Ple mae'r bachgan yma, tybed? Caiff ddwad efo chwi rhag blaen, syr, os ydyw o hyd y fan yma. Gŵyr am y llwybrau yn well nag y gwn i, neu buaswn yn dyfod fy hunan".

Wedi chwilio deuwyd o hyd i'r "bachgan." Ifan oedd hwnnw, ac edrychai am y tro yn ddarlun o ddidwylledd. "Dos gyda'r gŵr dieithr yma at Ogof Madam Wen, a wnei di?" meddai Siôn Ifan.

Crychodd Ifan ei dalcen fel pe'n synnu bod dyn fel hwn, yn ei oed a'i amser, ac o leiaf yn edrych fel un a'i synhwyrau ganddo, a'i fryd ar fynd i chwarae. "A oes arnoch chwi eisiau mynd i mewn iddi?" gofynnodd. Petrusodd y siryf am funud. "Waeth i ni hynny na pheidio, os medrwn ni."

"Dyna fo!" meddai Siôn Ifan. "Brysia, machgan i. Mi fydd raid i chwi gael cannwyll, oni fydd??" thra bu Ifan yn chwilio am y blwch tân a'r gannwyll, paratôdd y siryf ef ei hun i fyned i'r parciau.

Fel y buasid yn disgwyl, nid ar hyd y llwybr agosaf na'r diogelaf yr arweiniodd Ifan ei gydymaith i'r