Tudalen:Manion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BLODAU FFA

O! pan fydd y ffa'n blodeuo,
Gwyn ei fyd a'u harogleuo,
Pe bai'n hen a thrwm ei galon,
Ef âi eiliad o'i ofalon.

Gyda'r persawr yn ei ffroenau,
Fe anghofiai bwn ei boenau,
O! pan fydd y ffa'n blodeuo,
Gwyn ei fyd a'u harogleuo.

MAB YR YSTORM

Fe lamodd y nos i'r wybrennau
Lle gynnau'r oedd golau claer wyn;
Mae'r bryniau â niwl ar eu pennau,
A tharth hyd waelodion y glyn;
Daw'r awel leddf hir fel uchenaid
O galon ddofn ddistaw y coed,
A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn cofio ei hoed.