Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Daw ysbryd y storm i gyfarfod
A minnau ar ganol y rhos;
Ymdorchodd y fellten a'i harfod
Fel dydd rhwng dau eigion o nos;
A rhwygodd y daran yr entrych-
Rhwyg, adrwyg, llam, adlam, a su
Chwardd dithau fy enaid pan fentrych
I ganol y rhu.
Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo,
A'i chwiban yn gwanu fy nghlyw;
Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo,
Fe'm goglais y glaw fel peth byw;
Ymdonned y gwyntoedd amdanaf
A glyned y glaw yn fy nghroen,
A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf
O hyder a hoen.
1903.