Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gras a roddodd arno'r harddwch,
Gras a'i daliodd yn y byd;
Ac o ras ca'dd ei goroni
Heddyw yn y nefol fyd.

41 Mrs. Elias, hawddgar dirion,
Na rwgnechwch tra'n y byd,
Ond dymunwch ras yr Arglwydd,
Cymmorth ydyw nerth mewn pryd.
Chwithau, 'i holl berthynasau hawddgar,
Dymunwch nerth yr Arglwydd Ion,
Am eich golchi, am eich canu,
Yn rhinweddau gwaed yr O'n.

42 'Nawr wrth dewi a rhoi fynu,
Dymunwn etto am i Dduw
Godi Thesbiaid, gwir wroniaid,
Gyda'i waith nefolaidd gwiw.
Gwir genhadau goleu cedyrn
Yma ini îs y nen,
Yw dymuniad y caniedydd,
Felly byddo byth. Amen.

ENGLYNION.

Och dristyd ddyfryd ddwyfron!—och geli
Och galed newyddion!
Och eilwaith gorph a chalon!
Och roi'n y bedd mawredd Mon!
—GORONWY OWAIN.

Iawn seraph yn fflamio'r siroedd,—a dyn
O daniad y nefoedd;
Ail Elias addas oedd,
Nodedig enaid ydoedd.

Boanerges, gwres a graid,—aidd enddawd
Oedd ynddo ei lonaid;
Dyrchu bloedd yr oedd o raid
O dân i gadw enaid.
—IAGO TRICHRYG