Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VI.—Y defnydd da a wnaeth Mary o'i Beibl wedi ei brynu.

GWNAETH Mary Jones, trwy ei holl fywyd dilynol, ddefnydd da o'r Beibl a brynasai gan Mr. Charles. Yn hollol deilwng o'r zel bron ddigyffelyb a ddangosai am ei feddianu, un o'i phenderfyniadau cyntaf am dano oedd, ei ddarllen oll drwyddo yn rheolaidd, o air i air. Ymroddai yn ddyfalach nag erioed i ddarllen, chwilio, a dysgu allan benodau ei Beibl newydd ei hun. Darllenai ryw gyfran o hono bob dydd y caniatai ei hiechyd a'i hamgylchiadau, trwy y 66 mlynedd y bu fyw wedi ei brynu. Darllenodd ef trwyddo yn rheolaidd bedair gwaith. Dysgodd lyfrau cyfain o hono ar ei chof, megis Llyfr Job, y Salmau, y Diarhebion, Esaiah, Efengyl ac Epistolau Ioan, Epistolau Paul at y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid, yr Epistol at yr Hebreaid, ac hefyd Hyfforddwr Mr. Charles ei hun.

Dangosai Mary Jones o'i hieuenctyd zel arbenig o blaid yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn un o ysgolheigion cyntaf yr ysgol gyntaf