Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ELEN a SAL:
Mamau yn wylo am eu plant am nad ydynt,
a'r felltith yn disgyn amdanom ni'n darth,—
tarth o ffosydd a siglennydd y gors,
cors Glangors-fach a siglennydd y dial,—
a dim byd ar ôl ond lle gwag,
a mamau yn wylo am eu plant am nad ydynt.

(Newidier lliwiau'r golau).

MARI:
Mamau yn wylo am eu plant am nad ydynt,
plentyndod yn wylo am wrthod i blant eu plentyndod,
wylo'n y bru gan arswyd y baich. . .

SHANI:
Baich y feichiog yn feichiog gan faich,—
baich tynged yr ach a'i plyg i'w dibenion.

MARI:
Wylo na fyn ei gysuro am na roed dihangfa
rhag y llid sy'n erlid, rhag y lladd oni phlygir.

MARI A SHANI:
Wylo dŵr heli nad yw'n dyfrhau,
wylo sych sy'n crino pob creider,
wylo creision, a'r crasder yn nych ac afiechyd.

GŴR:
Ar wely'r pen-isa'n fy nych ac afiechyd, sylwi;
am y pared ag angau canfod y ddichell
a gorddai'r ffologod; a melltithio fy mhlant;
melltithio yr angau a'r ing, a chyn trengi
cau drysau ymwared o'r gors, a'r llwybrau.
Cors Glangors-fach yn nych ac afiechyd
a'r drysau'n cau ar ymwared yr angau
a'r beddau nid oes bâr ar eu dorau.

(Newidier lliwiau'r golau).

ELEN a SAL:
Drysau ymwared yn cau yn ein herbyn,
a'r llwybrau o'r gors yn cau ond ar angau;
nych ac afiechyd yn codi fel tarth
o gors Glangors-fach, ac yn cau o'n blaenau
yn wal heb ddrws, yn gors heb lwybrau,
ond drws yr angau; a'r beddau ni pharant eu dorau.