Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHYS:
Yn y gors y mae'r felltith, ei lleithder sy'n lladd;
gwlybaniaeth tragywydd yn nawseiddio fel dŵr eira . . .

IFAN:
trwy chwemis y gaea yn chwarren tan y grofen,
a beunydd yn lloncian rhwng bysedd y traed.

SAL:
Gwelydd y tŷ-byw yn chwŷs ac yn llwydni
a'r gegin fel llaethdy, a phapur y wal yn rhubanau;

ELEN:
y Gaea 'roedd y damprwydd yn ebill trwy'r ysgyfaint,
a'r Haf 'roedd pob stafell fel bandbocs o glos
ond bod drafft trwy'r rhigolau, a phob cawod yn canu'n y pedyll.

RHYS:
'Doedd dim llwybr o'r clos heb fynd tros ben esgid,
'roedd y waun yn ddigroen gan ôl traed y 'nifeiliaid,
a'r llydnod yn pydru'n y carnau a'r afu;

IFAN:
rhwd llif yr afon yn gwenwyno'r gwair pibrwyn,
a'r gwair gwndwn yn llwydo neu'n llosgi'n y dâs:
'doedd dim dwywaith nad y dŵr a roes fy nghymalau
tan glo yn y cryd, a'm plygu'n ddau-ddwbwl.

SAL:
Ond 'doeddit ti ddim heb fai, yn gwlychu hyd y croen
a chadw dy ddillad yn wlyb heb eu newid.
IFAN:
Beth allwn i ei wneud? 'Doedd gennyfi neb i ofalu,
neb i weld sychu fy nillad, na bod dim byd yn grâs,—
neb ond cymdogion pan welen nhw'n dda.

RHYS:
'Doedd dim raid iti ddal ati i fedi'n y glaw a gwlychu,
a'r rhwymwyr yn wlyb domen ddiferu'n y gwlith.

IFAN:
Llond cae o rwymwyr am un prynhawn, a'r glaw bras,—
dim ond cawod, meddwn innau, a'r cae'n llawn o gymdogion
yn rhwymo,—a'r glaw, 'rown i'n sopen cyn cyrraedd pen tir;