Tudalen:Mesur Addysg (Cymru) 2011.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(b) mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (sefydlu, newid neu ddirwyn ysgol i ben) neu yn Rhan 3 o’r Ddeddf honno (derbyniadau i’r ysgol).

14 Rheoliadau mewn perthynas â ffederasiynau

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a) ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;
(b) sy’n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â’r ffederasiwn neu’n ymadael ag ef;
(c) ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;
(d) sy’n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o’r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy’n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;
(e) ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;
(f) ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;
(g) ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a) darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,
(b) cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu
(c) gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.

15 Dull adnabod at ddibenion y Bennod hon ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.
(2) Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.
(3) Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.