Gwirwyd y dudalen hon
- (b) yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i’w darparu mewn perthynas â hwy;
- (c) cyhoeddi cynigion;
- (d) ymgynghori ynghylch y cynigion;
- (e) gwneud gwrthwynebiadau i’r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;
- (f) tynnu’r cynigion yn ôl neu eu haddasu;
- (g) y modd y mae’r awdurdod lleol i gadarnhau’r cynigion.
12 Gweithredu cynigion o dan adran 11
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
- (2) Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
- (3) Dyma’r personau—
- (a) yr awdurdod lleol sy’n cynnal ysgol sy’n ddarostyngedig i’r cynigion;
- (b) corff llywodraethu ysgol sy’n ddarostyngedig i’r cynigion;
- (c) unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
- (4) Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y’u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i’r is-adrannau a ganlyn.
- (5) Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
- (a) addasu’r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
- (b) os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’n rhaid i’r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
- (6) Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i’r cynigion os caiff ei fodloni—
- (a) y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu
- (b) bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cadarnhad gael ei roi y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.
- (7) Os yw’n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).
13 Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau
- O ran ffederasiwn—
- (a) rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;