Tudalen:Mesur Addysg (Cymru) 2011.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

11 Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion

(1) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—
(a) dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(b) ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(c) dau neu ragor o ffederasiynau sy’n bodoli eisoes.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.
(3) Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â’r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—
(a) cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i’w ffedereiddio;
(b) staff yr ysgolion;
(c) un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i’r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;
(d) i’r graddau y mae’n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a’u rhieni.
(4) Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.
(5) Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu’r ysgolion dan sylw.
(6) Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.
(7) Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p’un ai—
(a) cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu’n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu
(b) eu tynnu’n ôl.
(8) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol a gynhelir a honno’n ysgol nad yw’n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol yn cydsynio.
(9) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—
(a) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b) yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu’r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.
(10) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—
(a) sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;