Gwirwyd y dudalen hon
18 Ffederasiynau: darpariaethau atodol
- (1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—
- (a) Pennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ymyrryd mewn ysgolion yng Nghymru sy’n peri pryder), neu
- (b) adrannau 49 i 51 o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol), wrth gymhwyso’r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.
- (2) Mae’r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—
- (a) sy’n galluogi’r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â’r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw’r amgylchiadau, y mae’r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o’r ysgolion hynny, a
- (b) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.
- (3) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso’r deddfiad i ysgolion sy’n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.
- (4) Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
19 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002
- (1) Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
- (2) Yn adran 19—
- (a) yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
- (b) ar ôl is-adran (8), mewnosoder—
- “(9) In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
- (3) Yn adran 20—
- (a) yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
- (b) ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
- “(4A) In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”