Gwirwyd y dudalen hon
- (2) Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
- (a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achos, ardaloedd gwahanol neu ddibenion gwahanol;
- (b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos yn unig;
- (c) i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
- (3) Mae unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn a wneir o dan adran 15 neu 30 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
33 Cychwyn
- (1) Mae darpariaethau canlynol y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy’n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
- (a) adrannau 26 i 32;
- (b) yr adran hon;
- (c) adran 34.
- (2) Daw gweddill darpariaethau’r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
34 Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg
- (1) Enw’r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011.
- (2) Mae’r Mesur hwn i’w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a osodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.
—————————————
—————————————
© ⓗ Hawlfraint y Goron 2011
Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines.