Gwirwyd y dudalen hon
- (c) ysgol wirfoddol a reolir.
30 Pwerau atodol
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg drwy orchymyn, wneud—
- (a) darpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, neu
- (b) darpariaeth drosiannol, darpariaeth dros dro neu ddarpariaeth arbed.
- (2) Dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adrannau 26 i 29, o ganlyniad i’r adrannau hynny, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt, y cânt wneud y cyfryw ddarpariaeth.
- (3) Caiff gorchymyn, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth sy’n diwygio neu’n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978) sydd wedi ei gwneud cyn pasio’r Mesur hwn.
RHAN 4
CYFFREDINOL
31 Dehongli’n gyffredinol
- (1) Yn y Mesur hwn—
- ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol, pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud—
- (a) Deddf Seneddol;
- (b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- (c) is-ddeddfwriaeth yn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- (d) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu Fesur neu is-ddeddfwriaeth o’r fath;
- ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau;
- ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
- (2) Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau’r Mesur hwn i’w darllen fel petai’r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
- (3) Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.
32 Gorchmynion a rheoliadau
- (1) Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.