Gwirwyd y dudalen hon
- (2) Ym mharagraff 1—
- (a) hepgorer is-baragraff (1);
- (b) hepgorer paragraff (b) o is-baragraff (2);
- (c) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
- “(2A)A foundation school may in accordance with this Schedule become a school within any of the following categories in pursuance of proposals published by the governing body—
- (a) a community school;
- (b) a voluntary aided school;
- (c) a voluntary controlled school.”
- (3) Ym mharagraff 3—
- (a) yn is-baragraff (2), hepgorer “If the proposals are published during the period mentioned in section 35(2),”;
- (b) hepgorer is-baragraff (3).
28 Arbedion: cynigion i sefydlu ysgolion sefydledig newydd
- (1) Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu unrhyw berson arall i sefydlu ysgol sefydledig newydd pan fo’r cynnig—
- (a) wedi ei gyhoeddi o dan adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 26 wedi dod i rym, a
- (b) heb gael ei weithredu’n unol ag Atodlen 6 i’r Ddeddf honno cyn bod adran 26 wedi dod i rym.
- (2) Nid oes dim yn adran 26 yn effeithio ar weithrediad darpariaethau Rhannau 2 a 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â’r cynnig.
- (3) Mae paragraff 13(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad yn adran 26(3) wedi ei ddeddfu.
29 Arbedion: cynigion i newid categori i ysgol sefydledig
- (1) Mae is-adran (2) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i newid categori ysgol a gynhelir i ysgol sefydledig pan fo’r cynnig—
- (a) wedi ei gyhoeddi o dan baragraff 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 27 wedi dod i rym, a
- (b) heb gael ei weithredu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno cyn bod adran 27 wedi dod i rym.
- (2) Mae Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiadau yn adran 27 wedi eu deddfu.
- (3) Yn yr adran hon, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—
- (a) ysgol gymunedol,
- (b) ysgol wirfoddol a gynorthwyir, neu