Gwirwyd y dudalen hon
- (2) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.
- (3) Caiff y rheoliadau—
- (a) gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;
- (b) darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau’r hyfforddiant, yn cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;
- (c) darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw’n cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;
- (d) rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;
- (e) darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
25 Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod
- (1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae’r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy’n cael ei benodi’n glerc i alluogi’r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o’r Mesur hwn.
- (2) Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).
- (3) Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
RHAN 3
YSGOLION SEFYDLEDIG
26 Gwahardd sefydlu ysgolion sefydledig newydd
- (1) Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
- (2) Yn adran 28—
- (a) yn is-adran (1)(a), hepgorer “or foundation school”;
- (b) yn is-adran (2)(a), hepgorer “foundation or”;
- (c) ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
- “(2A) A local authority or promoters may not publish proposals for the establishment of a new foundation school in Wales.”
- (3) Ym mharagraff 13(1) o Atodlen 6, yn lle “such” rhodder “voluntary controlled”.
- (4) Yn adran 113A(4)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, hepgorer “foundation,”.
27 Gwahardd newid categori i ysgol sefydledig
- (1) Mae Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (newidiadau categori ysgol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.