Gwirwyd y dudalen hon
- (b) mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu’r ffederasiwn.
PENNOD 2
HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD
22 Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir
- (1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.
- (2) Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall i’r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.
- (3) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.
- (4) Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
- (5) Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.
- (6) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae’n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau’r llywodraethwr gael eu cyflawni’n effeithiol.
- (7) Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
- (8) Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.
23 Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
- (1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae’n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i’r awdurdod ddarparu person i’w benodi’n glerc.
- (2) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i’w benodi os gwneir cais.
- (3) Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
- (a) rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
- (b) rhagnodi’r person y mae’n rhaid i’r ffi gael ei thalu drwyddo;
- (c) darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
24 Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
- (1) Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae’n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.