Tudalen:Mesur Addysg (Cymru) 2011.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mesur Addysg (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cydlafurio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach; gwneud darpariaeth ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir, hyfforddi llywodraethwyr a chlercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a darparu’r cyfryw glercod; gwneud darpariaeth sy’n gwahardd ysgolion sefydledig newydd; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae’r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu’r darpariaethau a ganlyn:—

RHAN 1

CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

1 Cyrff addysg

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff addysg” yw—
(a) awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;
(c) corfforaeth addysg bellach (fel y diffinnir “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yng Nghymru;
(d) corff llywodraethu sefydliad dynodedig (fel y diffinnir “designated institution” gan adran 28(4) o’r Ddeddf honno) yng Nghymru, sydd—
(i) yn gorff a ymgorfforwyd yn rhinwedd adran 143(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a
(ii) yn darparu addysg lawn amser yn unig neu’n bennaf i bersonau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt eto’n 19 oed.

2 Amcan y cydlafurio

(1) Amcan y Rhan hon yw bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon gan gorff addysg mewn cysylltiad â darparu addysg a hyfforddiant sy’n addas at anghenion personau nad ydynt eto’n 19 oed.
(2) Cyfeirir at yr amcan hwn yn y Rhan hon fel “amcan y cydlafurio”.