Tudalen:Mesur Addysg (Cymru) 2011.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3 Dyletswydd corff addysg i gydlafurio

(1) Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.
(2) Os daw corff addysg i’r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.
(3) Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i’r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i’r graddau y mae’n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy’n addas at anghenion personau nad ydynt eto’n 19 oed.
(4) Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—
(a) adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);
(b) adran 116J o Ddeddf Addysg 2002 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4: gweithio ar y cyd);
(c) adran 12 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (dyletswydd i bwyso a mesur a fyddai arfer un o’i bwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau at ddibenion dyletswyddau o dan y Mesur hwnnw).

4 Ystyr “pwerau cydlafurio”

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—
(a) y pwerau yn adran 5;
(b) yn achos awdurdod lleol—
(i) ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;
(ii) ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);
(iii) pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o’r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);
(iv) pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).

5 Pwerau cydlafurio

(1) Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—
(a) ei ddyletswydd o dan adran 3,
(b) ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,