Gwirwyd y dudalen hon
- (c) ei ddyletswydd o dan adran 116J o Ddeddf Addysg 2002, neu
- (d) dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.
- (2) Y pwerau yw—
- (a) darparu cymorth ariannol (p’un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;
- (b) ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;
- (c) cydweithredu â’r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;
- (d) arfer (p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;
- (e) gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;
- (f) gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;
- (g) darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;
- (h) rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.
- (3) O ran y pwerau hyn—
- (a) nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a
- (b) maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.
6 Rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurio
- (1) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—
- (a) yr amgylchiadau pan na fo’r ddyletswydd yn adran 3(1) yn gymwys;
- (b) yr amgylchiadau pan na fo’n ofynnol i gorff addysg arfer pwerau cydlafurio, neu pan na chaniateir iddo eu harfer;
- (c) swyddogaethau corff addysg na chaniateir eu dirprwyo o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);
- (d) yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni i arfer pwerau cydlafurio;
- (e) y modd y mae swyddogaethau i’w cyflawni o dan drefniadau cydlafurio;
- (f) unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i arfer pwerau cydlafurio.
- (2) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol—
- (a) bod cyrff addysg yn sefydlu cyd-bwyllgor o’r cyrff hynny at ddibenion trefniadau o dan adran 5(2)(f) (“cyd-bwyllgor”);
- (b) penodi personau i wasanaethu ar gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu’r gofynion eraill sy’n ymwneud ag unrhyw benodiadau o’r fath) a’u diswyddo;
- (c) penodi clerc i gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu’r gofynion eraill sy’n ymwneud ag unrhyw benodiad o’r fath) a diswyddo’r clerc;