Tudalen:Mesur Addysg (Cymru) 2011.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(d) bod cyd-bwyllgor yn penodi un o’u plith i weithredu fel clerc at ddibenion cyfarfod pan fo’r clerc yn methu â bod yn bresennol;
(e) hawliau personau i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgor;
(f) cyfyngiadau ar bersonau sy’n cymryd rhan mewn trafodion cyd-bwyllgor;
(g) diddymu cyd-bwyllgorau;
(h) is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau (gan gynnwys darpariaeth i swyddogaethau’r cyd-bwyllgor gael eu harfer gan is-bwyllgor a darpariaeth mewn perthynas ag is-bwyllgorau y caniateir ei gwneud mewn perthynas â chyd-bwyllgor o dan yr adran hon);
(i) materion eraill sy’n ymwneud â chyfansoddiad neu weithdrefn cyd-bwyllgor.
(3) Mae’r pŵer yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
(a) swyddogaethau’r cyrff addysg sydd i’w cyflawni o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);
(b) y cyrff addysg y mae’r swyddogaethau hynny i’w cyflawni ganddynt.
(4) Caiff rheoliadau ddarparu bod unrhyw ddeddfiad i gael effaith yn ddarostyngedig i’r holl addasiadau angenrheidiol yn y modd y mae’n gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny a’r cyrff y maent i’w cyflawni ganddynt.

7 Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i gorff addysg roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

8 Dehongli’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—
mae i “amcan y cydlafurio” (“collaboration objective”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
mae i “corff addysg” (“education body”) yr ystyr a roddir gan adran 1;
mae i “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir gan adran 4;
ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau, ac yn achos awdurdod lleol, pwerau a dyletswyddau sy’n swyddogaethau addysg;
ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio corff addysg;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion.

9 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

(1) Yn adran 57(5A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn lle “make collaboration arrangements (within the meaning of section 166 of the Education and Inspections Act 2006) with such bodies” rhodder “exercise powers under section 5(2)(b) to (f) and (h) of the Education (Wales) Measure 2011 to collaborate with such persons”.