Gwirwyd y dudalen hon
- (b) deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
- (c) darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr isddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys isddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).”.
9 Pŵer mynediad
Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14I Pŵer mynediad
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys i—
- (a) cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
- (b) cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn is-adran (2).
- (2) Cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn yr is-adran hon yw—
- (a) y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
- (b) y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
- (3) Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
- (a) cadw cerbyd yn gaeth;
- (b) mynd i gerbyd neu fangre.
- (4) Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn annedd breifat.
- (5) Rhaid i arolygydd sy’n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy’n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.”.
10 Pŵer arolygu Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14J Pŵer arolygu
- (1) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—
- (a) arolygu’r cerbyd neu’r fangre;
- (b) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o’r cerbyd neu’r fangre;
- (c) arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o’r cerbyd neu’r fangre.