Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(b) yn ddysgwyr sy'n cael addysg neu hyfforddiant— ::(i) mewn man yng Nghymru, neu

(ii) a gyllidir gan Weinidogion Cymru mewn man y tu allan i Gymru.

(2) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i ddysgwyr i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno.
(3) Caiff y rheoliadau yn benodol—
(a) rhoi pŵerau i'r canlynol neu osod dyletswyddau arnynt—
(i) Gweinidogion Cymru;

(ii) awdurdodau lleol; (iii) sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b) pennu'r mathau o fan y caniateir, neu y mae'n rhaid, gwneud trefniadau teithio i fynd yno ac oddi yno;
(c) pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;
(d) pennu'r materion y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;
(e) gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;
(f) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r person arall o dan y rheoliadau;
(g) gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant neu o'r mannau hynny.

8 Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.
(2) Caiff y rheoliadau'n benodol—
(a) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;
(b) caniatáu i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;
(c) pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;
(d) pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;
(e) pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;
(f) gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;
(g) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.