Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(c) os nad ydynt yn ddiogel.
(7) Wrth ystyried a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol at ddibenion yr adran hon—
(a) rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol i'r materion a bennir yn is-adran (5);
(b) caiff awdurdod lleol roi sylw'n benodol i ba un a yw'r plentyn yn mynychu'r man perthnasol addas agosaf at fan preswyl arferol y plentyn ai peidio.
(8) Mae is-adran (7)(b) yn gymwys—
(a) os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a
(b) os yw trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i fynychu man perthnasol addas sy'n nes at fan preswyl arferol y plentyn.
(9) At ddibenion yr adran hon, mae man perthnasol yn addas i blentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

5 Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr

Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—

(a) er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu
(b) at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.

6 Pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr

(1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwr—
(a) os yw'r dysgwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(b) os yw'r dysgwr yn cael addysg neu hyfforddiant yn ardal yr awdurdod lleol.
(2) Caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i hwyluso'r ffordd i'r dysgwr fynychu man lle y mae'r person hwnnw'n cael addysg neu hyfforddiant.
(3) Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar

gyfer disgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol yn unol â darpariaethau adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.

(4) Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer dysgwyr eraill.

7 Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16

(1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'r rheini —
(a) yn ddysgwyr—
(i) sydd dros oedran ysgol gorfodol ond heb fod eto'n 19 oed, neu
(ii) sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu

hyfforddiant penodol cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw; a