Gwirwyd y dudalen hon
- (6) At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.
- (7) Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.
- (8) Mae ffordd "ar gael" at ddibenion is-adran (7)—
- (a) os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu
- (b) os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.
- (9) Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).
4 Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—
- (a) os yw'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn man perthnasol,
- (b) os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, ac
- (c) os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod angen trefniadau teithio er mwyn hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y man perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.
- (2) Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran
- (3) Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am
unrhyw drefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2). (4) Caiff trefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2) gynnwys talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn.
- (5) Wrth ystyried a yw trefniadau teithio yn addas at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol—
- (a) i'r asesiad a wneir ganddo yn unol ag adran 2(2);
- (b) i'r trefniadau cludo y mae dyletswydd arno i'w gwneud ar gyfer y plentyn o dan adran 3;
- (c) i oed y plentyn;
- (d) i unrhyw anabledd neu anhawster dysgu sydd gan y plentyn;
- (e) i natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i'r plentyn eu dilyn.
- (6) At ddibenion yr adran hon nid yw trefniadau teithio'n addas—
- (a) os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,
- (b) os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu