Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn—

(a) ysgol a gynhelir,
(b) uned cyfeirio disgyblion,
(c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn—

(a) ysgol a gynhelir,
(b) uned cyfeirio disgyblion,
(c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(3) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.
(4) Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys-
(a) darparu cludiant;
(b) talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.
(5) At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas-
(a) os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,
(b) os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu
(c) os nad ydynt yn ddiogel.