Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn-

(a) ysgol a gynhelir,
(b) uned cyfeirio disgyblion,
(c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.
(a) Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.
(b) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—
(i) ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,
(ii) uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,
(iii) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(iv) ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas, ac sy'n nes at yman lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.
(c) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawn amser.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol