Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(b) os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac
(c) os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
Colofn 1
Amgylchiadau
Colofn 2
Amod(au)

Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn—

(a) ysgol a gynhelir,
(b) uned cyfeirio disgyblion,
(c) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(d) ysgol arbennig nas cynhelir, lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.
(a) Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.
(b) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—
(i) ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,
(ii) uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,
(iii) ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(iv) ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas, ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.
(c) Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.