Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(g) mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);
(a) sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
(i) mannau lle y darperir addysg feithrin—
(i) gan awdurdod lleol, neu
(ii) gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
(j) mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.

Trefniadau teithio i ddysgwyr

2 Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr

(1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â—
(a) dysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;
(b) dysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;
(c) y cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.
(2) Ym mhob blwyddyn academaidd, rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion teithio dysgwyr ei ardal ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
(3) At ddibenion is-adran (2), anghenion dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod am gael trefniadau teithio addas bob dydd i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno yw "anghenion teithio dysgwyr" ardal awdurdod lleol.
(4) Wrth wneud asesiad o dan is-adran (2) rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i—
(a) anghenion dysgwyr sy'n bersonau anabl,
(b) anghenion dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu,
(c) anghenion dysgwyr sy'n blant ac sy'n derbyn gofal, neu a fu gynt yn derbyn gofal, gan awdurdod lleol,
(d) oed dysgwyr, ac
(e) natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr eu dilyn i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.

3 Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo

(1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—
(a) os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,