Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch teithio gan bersonau sy'n cael addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant i ysgolion neu i fannau eraill lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant, ac oddi yno; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 30 Medi 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Rhagfyr 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

Prif dermau

1 Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

(1) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
(2) Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw "trefniadau teithio" ac

maent yn cynnwys—

(a) darparu cludiant;
(b) darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;
(c) talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
(d) talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.
(3) Ystyr "dysgwyr" yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.
(4) Mae "mannau perthnasol" fel a ganlyn—
(a) ysgolion a gynhelir;
(b) sefydliadau yn y sector addysg bellach;
(c) ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);
(d) ysgolion arbennig nas cynhelir;
(e) unedau cyfeirio disgyblion;
(f) mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996;