Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(2) Rhaid i awdurdod lleol roi i awdurdod lleol arall unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol arall ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 2, 3, 4 a 6.
(3) Rhaid i awdurdod lleol roi i bennaeth ysgol berthnasol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar bennaeth ei hangen neu ei angen ynghylch ymddygiad disgybl cofrestredig yn ei ysgol tra oedd y disgybl yn manteisio ar drefniadau teithio a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan y Mesur hwn.
(4) Rhaid i bennaeth ysgol berthnasol roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar yr awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14.

18 Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol ("awdurdod A") yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol ("awdurdod B").
(2) Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.
(3) Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.

19 Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennig

(1) Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.
(2) Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—
(a) yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu
(b) wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.
(3) Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—
(a) nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a
(b) sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.
(4) Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.
(5) At ddibenion y Mesur hwn—
(a) mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;