Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(b) mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran :(4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.
(6) Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—
(a) at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu
(b) at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.
(7) Yn yr adran hon—
(a) mae i "cartref plant" yr ystyr sydd i "children's home" yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);
(b) ystyr "rhiant" yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i "parent" yn adran 576:(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.

20 Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996

(1) Diwygir adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (mynychu'r ysgol) fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (4) rhodder—
"(4) The child is not to be taken to have failed to attend regularly at the school if the parent proves that the local authority have failed to discharge—
(a) a duty to make transport arrangements in relation to the child under section 3 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or
(b) a duty to make travel arrangements in relation to the child under section 4 of that Measure."
(3) Yn is-adran :(5) yn lle "subsections (3D) and :(4)" rhodder "subsection (3D)".

21 Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002

(1) Diwygir Deddf Addysg 2002 fel a ganlyn.
(2) Diwygir adran 32 (pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol) fel a ganlyn—
(a) yn is-adran (1)(b) o flaen "the governing body" mewnosoder "subject to subsections (5) to (9),";
(b) yn is-adran :(2)(b) o flaen "the times" mewnosoder "subject to subsections (5) to (9)";
(c) ar ôl is-adran :(4) mewnosoder—
"(5) Subsections :(1)(b) and (2)(b) do not apply in relation to a school in Wales in the circumstances specified in subsection (6).
(6) The circumstances are—
(a) that the local education authority in whose area the school is situated have given notice in writing to the governing body of the school that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection :(8), and
(b) that the notice has not been withdrawn by the local education authority.
(7) A local education authority must not issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a) unless they consider a change in the times of the sessions of that school to be necessary or expedient in order to—