Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(4) Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—
(a) y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;
(b) Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;
(c) is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.
(5) Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6) Nid yw is-adran :(5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.
(7) Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)— (a) rheoliadau o dan adran 3(9),
(b) rheoliadau o dan adran 7,
(c) rheoliadau o dan adran 8,
(d) rheoliadau o dan adran 14 (14)(a), neu
(e) rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. 28 Cychwyn

(1) Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor— yr adran hon; adran 27; adran 29.
(2) Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

29 Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg

(1) Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.