Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(a) un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu
(b) myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach, gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;

ystyr "rhagnodi" ("prescribed") yw rhagnodi mewn rheoliadau;

ystyr "rheoliadau" ("regulations") yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

ystyr "ysgol arbennig nas cynhelir" ("non-maintained special school") yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

(2) Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989 (p.41).
(3) Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(4) Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

25 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

26 Diddymiadau

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

27 Gorchmynion a rheoliadau

(1) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;
(b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(c) i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3) Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), adran 7 neu adran 8 hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.