Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(i) yn lle "the Assembly", y tro cyntaf y ceir yr ymadrodd hwnnw, rhodder "the Welsh Ministers",
(ii) yn lle "the Assembly thinks" ym mharagraff ::(c) rhodder "the Welsh Ministers think".
(4) Ar ôl adran 182 mewnosoder—
"182A Assembly control of orders and regulations
(1) Any statutory instrument containing an order made under section 162(5A) by the Welsh Ministers may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the Assembly.
(2) Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the Assembly procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the Assembly by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule."

Cyffredinol

24 Dehongli cyffredinol

(1) Yn y Mesur hwn—

nid yw "addysg" ("education") yn cynnwys addysg uwch;

ystyr "addysg feithrin" ("nursery education") yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

mae i "anabledd" yr ystyr sydd i "disability" ac i "person anabl" yr ystyr sydd i "disabled person" yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);

ystyr "anhawster dysgu" ("learning difficulty") mewn cysylltiad â pherson yw—

(a) anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu
(b) anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,

ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;

ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p.42);

ystyr "blwyddyn academaidd" ("academic year") yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;

ystyr "profiad gwaith" ("work experience") yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—