Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bellach, wele un gyfrol wedi ei chwblhau! Cydnabyddwyf yn ddiolchgar y cynorthwy parod a roddwyd i mi gan ohebwyr De a Gogledd; gwn i lawer un gymeryd llawer o boen, os nid traul hefyd, i gasglu hysbysiadau a hanesion;—gwasanaeth nid yn unig a fu yn fuddiol iawn er cynorthwy i mi, ond a fydd, yn ddiau, yn ddyddorol a difyr i'r holl ddarllenwyr, ac i oesoeddi sydd eto heb eu geni.

Nid oes gevyf ddim i'w ddywedyd am gynllun y gwaith, ond mai yr un a ddefnyddiwyd a ymddangosai, ar y pryd, yn fwyaf dewisol. Fe gynwys y gwaith oll bum dosbarth,—sef,

Y DOSBARH CYNTAF—HANESION RHAGARWEINIOL.
YR AIL DDOSBARH—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH.
Y TRYDYDD DOSBARH—CYNYDD METHODISTIAETH,
Y PEDWERYDD DOSBARTH—HANESIAETH Y SIROEDD.
Y PUWMED DOSBARTH—CYFANSODDIAD A DYLANWAD METHODISTIAETH.

Am Hanes y Siroedd, fe wel y darllenydd yn y gyfrol hon gynllun o'r hyn a ellir ei ddysgwyl am siroedd eraill. Ni fwriedir rhoddi hanes pob cangen eglwys yn y cyfundeb, na phob pregethwr, pe buasai defnyddiau i hyny, gan y chwyddasai hyny y gwaith i derfynau eang iawn; ond, hyd y gellir cael y defnyddiau, rhoddir yr amgylchiadau hynotaf cysylltiedig â hen eglwysi, ac â gwŷr mwyaf eu dylanwad a'u defnyddioldeb yn mhob sir; mwy na hyn, tybygid, ni ellir ei ddysgwyl yn HANES CYFFREDINOL Y CYFUNDEB.

Am y modd y mae y gwaith wedi ei gyflawni, nid oes genyf i'w ddweyd ond fy mod wedi treulio llawer o feddwl, a llawer o amser wrtho, gan lawn fwriadu ei gwblhau yn y modd goreu a allwn, heb adael allan ddim a farnwn yn deilwng, na thrwmlwytho yr hanes ag amgylchiadau rhy ddibwys. Nid amecaais at ddim uchel ac addurniadol yn nullwedd yr ysgrif; yn unig, teimlwn yn bryderus, na fyddai rhodres a chymendod ddim yn ei anurddo, ar y naill law, na phlentynrwydd a ffoledd ar y llaw arall. Barned y darllenydd i ba raddau y gellais ymgadw at yr amcan hwnw.

Teimlwyf, yn ddiweddaf, barodrwydd i ddiolch, yn gyntaf i Dduw am iechyd a seibiant i wneyd yr hyn a wnaed, ac yn nesaf i'r cyfeillion hyny a fuont mor barod i anfon defnyddiau i'r gwaith, neu i wneyd eu goreu tuag at hyrwyddo ei ledaeniad. Hyderwyf hefyd, "os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddaf byw," y cyflawnir yr ail gyfrol (yr olaf), o fewn amser rhesymol; ac y bydd ei chynwysiad yn llawn mor ddyddorol â'r eiddo y gyfrol honu.

JOHN HUGHES.

LIVERPOOL, MOUNT-STREET,

Rhagfyr 26, 1851.