Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH

LLAWER gwaith yn fy oes y bum yn gwynfydu, na fuasai crynodeb mwy neu lai cyflawn o hanes Methodistiaeth Cymru ar gael. Deallwn nad oeddwn yn unig yn y teimlad hwn, ond ei fod yn hytrach yn lled gyffredinol yn mysg y genedl, ac yn nodedig felly yn mhlith ieuenctyd y cyfundeb.

Darllenaswn waith yr hybarch Robert Jones, sef "Drych yr Amseroedd," gyda llawer o hyfrydwch, er ys blynyddau meithion;—darllenais hefyd, ar ol hyny, draethodau llai, gan wahanol awdwyr, heb fod o'r cyfundeb, yn rhoddi cip-olwg, mwy neu lai cywir, ar gychwyniad a chynydd y Methodistiaid;-ar ffurf eu cyfansoddiad, neu raddau presenol eu dylanwad;—ond nid allwn, er hyn oll, ymddyosg oddiwrth y dyb, fod mwy eto i'w gyflawni.

Wedi troi o’m hieuenctyd yn nghymdeithas y Methodistiaid;—wedi bod, bellach, ddeugain mlynedd ymron yn sefyll mewn gwaith mwy cyhoeddus yn eu plith:—ac wedi ymddifyru llawer yn swn y gorchestion a wnaethpwyd trwy y tadau, ni allwn lai na theimlo awyddfryd am i rywun gymeryd mewn llaw i osod allan brif linellau y diwygiad rhyfeddol hwn, â pha un y gwelodd yr Arglwydd yn dda ymweled â'r Dywysogaeth. Ond gan na welwn un arwydd, wedi blynyddoedd o ddysgwyl, fod arall, mwy cymhwys i'r gorchwyl, yn ymosod ato, mi a ymaflais ynddo fy hunan, eto nid heb annogaethau lawer a thaerion, ie, oddiwrth rai y teimlwn lawer o barch i'w gras, ac o ymddiried yn eu barn.

Ond nid oeddwn, ar y dechreu, yn meddwl am draethawd mor helaeth ag y mae hwn yn awr yn debyg o fod; mewn gwirionedd, nid oeddwn yn tybied y buasai cymaint o ddefnyddiau ar gael, ar ol cymaint o oediad, ac ar ol ymadawiad cynifer o hen bobl, ag y mae yn ymddangos yn awr fod. Er hyny, teimlwn cryn betrusder i helaethu llawer ar ei faintioli, gan y llafur a osodai arnaf yn ei gyfansoddiad, a chan yr anturiaeth a fyddai yn nglŷn â'i ledaeniad; ond yr oedd cymhelliadau fy mrodyr, yn bersonol a chynulliadol, mor gryfion ac unffurf, ar i mi, am yr unwaith y cymerwyd y gwaith mewn llaw, ar bob cyfrif, wneyd cyfiawnder ag ef; o leiaf, trwy beidio ei dalfyru a'i grintachu. Nis gallwn fy hunan hefyd lai na gweled gradd o briodoldeb yn y rhesymau a roddid dros yr helaethiad; a phenderfynais y rhoddwn, os cawn fywyd a iechyd, rediad teg, o fewn terfynau rhesymol, i'r defnyddiau a allwn gael fy hun, neu a anfonid i mi gan eraill.