os gellwch, yn eich meddwl, y fath olwg a'r fath agwedd arswydus oedd ar y llu yma yn myned i'r gâd, ac yn bloeddio i'r frwydr, fel pe buasai "llu uffern gethern gau" wedi cyd-ymgodi:--a pha fath fraw oedd wedi meddiannu yr ychydig drueiniaid oedd yn deall eu hamcan, ac yn dysgwyl am danynt! Daethant at y tŷ pan oedd Mr. Harris yn darllen ei destyn, Act. ix, 4,"Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Ni chafodd ymadroddi ond ychydig. Torwyd y ffenestri yn ebrwydd; a dringodd rhai i ben y tŷ, ar fedr ei dynu i lawr. Eraill a ddaethant i mewn, ac a ddwrdiasant Mr. Harris i ddyfod allan, ac onide, tynent y tŷ ar eu penau hwy oll. Allan y bu raid iddo fyned, a rhai o'i wrandawyr gydag ef, fel defaid i safnau y cŵn. Yr oedd yn nifer ei wrandawyr amryw wŷr cryfion a chalonog, yn ymroddi i sefyll o'i ddeutu, i'w achub a'i amddiffyn hyd y gallent. Ond er grymused oeddynt, ni allasant achub nemawr arno rhag y dorf fileinig hon. Yr oedd y meibion a'r merched, y naill mor greulawn a'r llall-y merched yn ei drybaeddu â thom yr heolydd, a'r meibion, â'u dyrnau a'u pastyn-ffyn, yn ei guro yn ofnadwy, er bod y gwŷr uchod yn achub hyd y gallent, ac yn derbyn llawer o'r dyrnodiau. Torasant amryw archollion ar ei ben, ac yr oedd ei waed yn lliwio cerig yr heol. Y dorf greulawn a'i dylynasant, gan ei faeddu agos yn ddibaid, o'r dref hyd y ffordd sydd yn myned gydag ochr y llyn tua Llanycil; ac yma y bu Mr. Harris dan eu traed hwy dros enyd o amser, fel y tybiodd yn sicr yr aent â'i fywyd. Hyny yn ol pob tebygoliaeth a wnaethent, oni buasai i'r Arglwydd, mewn modd hynod, ragflaenu. Gwnaeth hyn trwy roddi yn nghalonau tri o wŷr lled gyfrifol o'r gymydogaeth, rhai o'r erlidwyr hefyd, i ymnorchestu i'w achub. Hwy a ymwrolasant drosto yn y cyfwng caletaf; a thrwy orchest fawr, hwy a dyciasant i gadw ei einioes o ddwylaw rhai gwaedlyd oedd yn dal i'w guro, ac yn sychedu am waed ei galon."
Crybwyllir rhai pethau amgylchiadol gan Mr. Harris ei hun, yn ychwanegol at yr hyn a fynegwyd uchod mor ddyddorol gan yr hen ŵr parchus, y rhai a ddygwyddasant yn y tro echrydus hwn.
"Pan oeddwn yn agos i'r Bala (ebe Mr. Harris), dygwyddodd i mi orddiwes gweinidog y plwyf ar y ffordd, yr hwn a ddywedodd wrthyf yn sarug, am beidio myned i'r dref er fy mywyd. Minau a'i hatebais yn addfwyn, gan ddyweyd, fy mod yn gwbl sicr mai fy nyledswydd oedd myned yno; ac nad oedd genyf un bwriad arall ond cyhoeddi y newyddion da am iachawdwriaeth i bechaduriaid, ac na fynwn, o'm bodd, fod yn dramgwydd i neb. Pa fodd bynag, dechreu fy nifrio a'm difenwi a wnaeth, gan ddynesu ataf i fy nharo â'i ffon."
Nid ymddengys fod y gŵr urddasol wedi ei daro, er iddo ddangos digon o barodrwydd i wneyd hyny. Ymddengys hefyd fod Mr. Harris wedi rhoi heibio llefaru, ar gais cyfaill, ar waith y terfysgwyr yn ymosod ar y tŷ, ond iddo ef feddwl wedi hyny ynddo ei hun, mai ymgynghori â chig a gwaed oedd hyny, yr hyn, yn ol ei feddwl ef, ni ddylasai wneuthur. Yr oedd yn dynesu pan y daeth allan at y terfysgwyr; dechreuodd un ei lindagu,