Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd tyrfa fawr wedi ymgasglu i wrando arno,—gan y rhoddid coel fawr, a gwrandawiad astud, i ddychymygion ffol, ond eu golygu yn weledigaethau. Yn mysg eraill, daeth yno foneddwr gelynol iawn, gan lawn fwriadu saethu y pregethwr; ond gan na ddaeth y gŵr dyeithr at ei amser yn fanwl, blinodd y gŵr boneddig yn dysgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Prysurwyd ef i ffordd gan wanc ei gylla, a denwyd ef ymaith gan arogl danteithion, a gwnaed hyny yn achlysur o waredigaeth i Harris, ac yn foddion iachawdwriaeth i bechaduriaid.

Yn fuan ar ol iddo droi ei gefn, wele Harris yn y fan. Safodd wrth ochr y tŷ, a chafodd gymhorth anghyffredin i lefaru. Disgynai ei eiriau fel tân ar gydwybodau ei wrandawyr. Cerddai grym dwyfol gyda'r ymadroddion, nes oedd dynion caledion a chryfion yn methu sefyll ar eu traed, ond yn syrthio yn wywedig ar y ddaear; ac wrth fyned i'w cartrefi, llefent ac wylent ar hyd y ffordd, fel pe buasai dydd Duw gerllaw. Y dydd canlynol, pregethodd yn Tywyn, yn agos i Tydweiliog. Arddelodd Duw yr oedfa hon hefyd mewn modd hynod. Cafodd llawer yno eu gwir ddychwelyd, y rhai a fuant wedi hyny yn addurn i'w proffes, ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Un o'r rhai a ddychwelwyd y pryd hyny oedd John Griffith Ellis. Am hwn y dywedir fod rhai pethau yn ei weinidogaeth yn rhagori ar bawb o'i gyfoeswyr. Byddai awelon nerthol yn fynych yn dylyn ei bregethau. Sonir yn neillduol am bregeth o'r eiddo yn Nghymdeithasfa y Bala, ar Zech. xiii, 7, "Deffro, gleddyf, yn erbyn fy Mugail, &c.," dan yr hon y disgynodd rhyw dywalltiadau anarferol ar y gynulleidfa, megys cwmwl yn ymdori, ac iddo yntau ei hun lesmeirio dan rym y tywalltiad.

Dan yr un bregeth o eiddo Mr. Harris y cafodd un o ferched y TyddynMawr ei galw, yr hon ar ol hyn a briododd Mr. Jenkin Morgan y soniasom am dano o'r blaen. Yr oedd i'r ferch hon dair o chwiorydd; hwythau hefyd a alwyd cyn hir o amser ar ol eu chwaer; a bu y Tyddyn-Mawr yn "llety fforddolion," ac yn noddfa glyd i lawer pererin lluddedig, mewn adeg yr oedd awelon ffyrnig o erlidigaeth yn pwyso yn drwm arnynt.

Dwywaith ar ol hyn y pregethodd Mr. Harris yn ystod y daith hon yn sir Gaernarfon-unwaith yn Rhydolion, ac unwaith yn Mhortinlleyn; ond ni chrybwyllir am effeithiau neillduol iddynt. Dychwelodd yn ol trwy Abermaw a Machynlleth.

Ar ei ddychweliad, "mi a ddaethum (meddai) i Benmorfa, yn agos i'r Traeth-mawr; a thra yr oeddwn yn aros i fyned trwy y traeth, yr erlidwyr a gyffroisant i'm herbyn; yr oedd ysbryd mwrddwyr i'w ganfod yn eu gwedd a'u hymddygiad." Cafodd gryn anmharch ganddynt y tro hwn; ond nid llawer o niwed. Diangodd o'u dwylaw, a daeth drosodd i Abermaw, i dŷ gweinidog yr ymneillduwyr yno. Croesodd o sir Feirionydd i Fachynlleth; a bu yma eilwaith mewn perygl am ei hoedl; eithr "mi a achubwyd (meddai) fel ysglyfaeth o safn y lle." Llonid ef yn fawr wrth gyfarfod â'i gyfeillion yn Llanbrynmair, a manau eraill yn sir Drefaldwyn, y rhai erbyn hyn oeddynt yn dechreu ymffurfio yn gymdeithasau eglwysig bychain, mewn amryw