Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrwythau toreithiog o burdeb a gwirionedd? "Onid oedd triagl yn y Gilead hon? ac onid oedd yma physygwyr? paham na wellasai iechyd merch y bobl?" Y gwir ydyw, "yr oedd y bobl yn eistedd mewn tywyllwch, ac yn mro a chysgod angau." Yr "ynys dywell" ydoedd, o ddifrif. Fel y bu gynt yn dywell gan goedwigoedd, a chan ofergoeledd Derwyddiaeth; felly yr oedd yn awr gan anwybodaeth. Tywyllwch a orchuddiai'r ddaear hon, a'r fagddu y bobl. Nid oedd na swn na chynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion hyn. Gresyn na buasai yma ryw Wroth neu Cradoc; rhyw Erbury neu Rowlands; rhyw un yn mysg yr offeiriaid a fuasai yn dyrchafu ei lais fel udgorn i rybuddio y drygionus: gresyn na fuasai rhyw un yn teimlo ei ysbryd yn cynhyrfu ynddo wrth weled yr holl wlad wedi ymroi i oferedd! Pa wahaniaeth bynag sydd ar y wlad hóno yn awr, wrth a welid arni yn nechre y deunawfed canrif, y mae yn rhaid ei briodoli i law Duw yn coroni llafur ymneillduwyr. Meddai John Evans am wlad Mon yn y fl. 1730, a chyn hyny, "Yr oedd holl wlad Mon o un grefydd; nid oedd yno ddim pleidiau, ond pawb yn cyrchu i eglwys ei blwyf yn o ddyfal, ac yr oeddynt yn rhagori yn hyn ar drigolion llawer o barthau Cymru. Ond yr oeddynt yn gyffredin trwy y wlad yn dra thywyll, anystyriol ac ofergoelus, a swn mawr yn eu plith am y tylwyth teg. Byddai son mawr am bregeth yn y llan, os dygwyddai hyny fod, gan mor anaml y byddai yr offeiriaid yn pregethu. Yr oedd pawb, ysywaeth, yn o ddigyffro am achos eu heneidiau gyda dim difrifwch, gan farnu fod pob peth yn dda, ond cael cred a bedydd, fel y dywedent."[1]

Ni a grybwyllasom eisoes am y modd y cychwynasai y diwygiad Methodistaidd yn rhai parthau o siroedd Trefaldwyn, Meirion, ac Arfon; ond ni chyrhaeddasai eto hyd wlad Mon. Ond tua'r fl. 1730, sef tua chwe blynedd cyn i Harris a Rowlands dori allan yn y Deheubarth, dechreuodd rhyw gyffro dirgelaidd yn meddyliau meibion Thomas Pritchard o'r Ty-Gwyn, yn agos i Langefni. Cynyrchwyd y cyffro hwn trwy ddarllen y Beibl, a thrwy sylwi ar ei gynwysiad. Nid trwy bregethau, na thrwy esiamplau dynion, ond yn unig darllen yr ysgrythyrau, ac ychydig o lyfrau gwŷr duwiol y caent afael ynddynt; y rhai oeddynt yn bur anaml y dyddiau hyny mewn un rhan o'r wlad. Anaml hefyd y medrai neb o'r werin ddarllen llyfr y pryd hyny, pe buasai llyfr ganddynt.

Yr oedd gan Thomas Pritchard dri o feibion, sef Howel, Harri, a Thomas, oll dan gyffelyb anesmwythder yn achos crefydd; ac wedi cael eu cyffroi eu hunain yn achos eu heneidiau, dechreuasant aflonyddu ar eraill, trwy ddangos iddynt, mewn ymddyddanion, nad oedd eu cyflwr mor ddiogel ag y tybient hwy ei fod. Yr oedd gan y brodyr hyn chwaer a ddeffrowyd fel hwythau i ystyried ei ffyrdd, ac i droi at yr Arglwydd. Nid oedd doniau na gwybodaeth y brodyr hyn, fel y gellid meddwl, ddim yn helaeth; eto, yr oedd eu

hamcan yn gywir, a'u rhodiad yn weddus. Bu eu hymddyddanion yn fendithiol i eraill. Bu Howel Thomas fyw ar ei dir ei hun, Trefolwyn. Cof-

  1. "Trysorfa," Llyfr ii, tudal. 433.