Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cododd yr achos o lys Bangor i orsedd (assizes) y wlad, a'r counsellor Williams, o'r Ty Fry, a safodd drosto. Ennillodd yr achos, a chynygiwyd iddo gael talu y pwyth i'w wrthwynebwr, ond â hyny ni chydsyniodd. Wedi i'r canghellwr annynol fethu a dyrysu ei fywioliaeth, drwy erlyniad cyfreithiol, lluniodd anwireddau arno wrth ei feistr tir, a llwyddodd i'w gael allan o'i dyddyn.

Symudodd, fel y dywedwyd eisoes, i Blas Pen-mynydd, gerllaw Llangefni, yn Mon.

Yr oedd y son am dano, fel dyn dyeithr ei grefydd, wedi cyrhaedd yr ardaloedd cyn iddo ef ei hun ddyfod yno i aneddu. Sicrheid gan y chwedleuwyr, yr âi pawb a wnelai ddim cyfeillach â William Pritchard allan o'u synwyrau; ac erbyn ei ddyfod i Fon, parod oedd yr holl wlad i edrych arno fel ci cynddeiriog, neu fel un a ddygai gydag ef ryw haint dinystriol i'r tir. Y gwŷr eglwysig yn neillduol a flaenorent yn y gwaith o'i dduo, ac o annog pawb i'w ddirmygu a'i golledu. Yr oedd yn y gymydogaeth ŵr yn masnachu llawer mewn defaid; hwn a anfonai nifer o honynt i ŷd a gwair William Pritchard, a gosodai ddyhiryn i'w cadw yno, fel na feiddiai perchen yr ŷd a'r gwair, na'i weision, eu gyru ymaith, Dyoddefai ef a'i deulu yn amyneddgar, heb geisio ymddial, gan ystyried mai braint oedd cael dyoddef colled a cham er mwyn yr efengyl.

Yr oedd William Pritchard o gyneddfau cryfion, ac o ddeall helaeth yn yr ysgrythyrau. Tra-rhagorai yn hyn ar bawb y pryd hyny yn ngwlad Mon. Ar ei ddyfodiad cyntaf yno, cododd allor i Dduw yn ei deulu, ac yn fuan cafodd bregethu i'w dŷ. Gwnaeth hyn gynhwrf mawr yn yr ardal, a mawr oedd y dyfalu gan y werin ddiwybod o'i amgylch, pa beth a allai hyn fod. Rhai a haerent mai gwallgofiaid oeddynt, ac mai yn wallgofiaid dilai yr âi pawb a gyfeillachent â hwy. Eraill, a gymerent arnynt fod yn ddoethach na'r cyffredin, a ddywedent mai dyma'r gau-brophwydi y sonia yr ysgrythyrau am danynt, yn dyfod yn ngwisgoedd defaid, ond yn fleiddiaid rheibus. oddifewn. Y gwŷr eglwysig a bregethent yn eu herbyn, gan eu dynoethi fel gau-athrawon a hereticiaid peryglus, y rhai y dylid ar bob cyfrif eu gochelyd. Ond y farn fwyaf gyffredin oedd, mai dynion o syniadau cyffelyb i Cromwel oeddynt; a galwent hwy Penau Crynion (Round Heads); ac mai eu dyben oedd dymchwelyd yr eglwys sefydledig, a throi yr offeiriaid o'u swyddau. Llawer o gelwyddau digywilydd a daenid am danynt trwy y wlad. Dywedid fod yr ysbryd drwg mewn dull gweledig yn eu cyfarfodydd, weithiau fel ebol bach, neu fel gafr, neu ryw ddull arall yn ol ei ewyllys. Haerid eu bod yn llygad-dynu pawb a ddeuai atynt; fel os dygwyddai neb ddyfod i'w gwrando, er cadarned y gallai fod yn y ffydd y bedyddiwyd ef, y byddai mewn perygl o gael ei siglo, a gwadu ei fedydd, yr hyn a ystyrid yn bechod mawr iawn. A gwir ydoedd, fod am un a ddeuai i'r bregeth i wawdio a dirmygu, wedi cael ei argyhoeddi; ac mewn canlyniad, ymroent â'u holl egni i ddysgu darllen; ac yn fynych, fe geid allan eu bod