Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo fedru eu gadael hwy oll o'i ol wrth redeg; ond Howel Thomas, o Blas Llangefni, un o'r tri brawd y soniwyd am danynt eisoes, a gafodd yr ergyd â'r ffon a'r pen haiarn. Tarawyd ef mor ddiarbed ar ei ben, nes oedd ei waed yn llifo, y ffon yn tori, a'r pen haiarn yn disgyn dros y clawdd i'r cae. Dylynodd y fileiniaid hwy ar hyd y ffordd, gan eu curo â'u ffyn yn ddidrugaredd, dros fwy na chwarter milldir, nes oedd eu gwaed yn lliwio y llawr, a'r maeddwyr eu hunain wedi diffygio.

Nid oedd croesau William Pritchard ond dechreu. Yn fuan ar ol yr amgylchiad yma, ymgynghreiriodd torf o erlidwyr â'u gilydd i'w boeni a'i niweidio, os nad ei ladd. Dywedir fod o'r cynghreirwyr hyn ddau cant, neu ddau cant a hanner, o rifedi. Dychymygodd rhai o honynt, a osodasid i wylio arno, eu bod wedi ei ganfod ar ryw nos Sadwrn yn dychwelyd adref, a phregethwr gydag ef; yna daeth y llu am ben y tŷ ddydd Sabboth. Dygwyddodd fod William Pritchard y pryd hyny oddicartref, a bod y gweision oll yn Llanffinen yn y gwasanaeth; ac nid oedd yn y tŷ ond y wraig, a chanddi blentyn bychan deufis oed, a llances o forwyn. Mawr iawn oedd arswyd y wraig ddiamddiffyn, pan y canfu hi yr haid fileinig yn rhuthro yn mlaen gyda llwon a rhegfeydd ofnadwy, ac yn dywedyd wrthi, "Ni a ddaethom i ladd dy Bengrwn di, a'i bregethwr."

"Os Pengrwn (ebe hithau yn arafaidd, a'i phlentyn yn ei breichiau) yr ydych yn ei alw, nid yw efe gartref yrŵan."

"Celwydd wyt ti yn ei ddywedyd," meddent hwythau.

'Meistres (ebe y forwyn), a gaf fi gau y drws rhagddynt ?” "Paid, (ebe hithau) gâd iddynt."

Felly, ni ddaethant i'r tŷ, ond drylliasant yr holl ffenestri, presebau y ceffylau a'r gwartheg, a phob peth arall o fewn eu cyrhaedd. Aethant drachefn i'r ysgubor, a chymysgasant yr haidd a'r ceirch am ben eu gilydd, gan dyngu yn echryslawn y lladdent y neb pwy bynag a'u llesteiriai. Yr oedd yn dda fod y gweision oddicartref, onide ni allesid dysgwyl amgen na thywallt gwaed. Nid o ddireidi anystyriol, er dangos eu bariaeth a'u nerth, y gwnaent hyn, ond o wir ddygasedd at yr efengyl; a llawer o honynt o bosibl mor dywyll a chamsyniol a thybied mai gwasanaeth i Dduw a fuasai lladd y crefyddwyr dyeithr hyn. Yr oedd pechod y rhai a wyddent yn amgen, ac a gynhyrfent nwydau y werin ynfyd ac ofergoelus, o hyny yn fwy; ac nid oedd perygl a cholled y dyoddefwyr un mymryn llai, oddiar ba egwyddorion bynag y gweithredai y dyhirwyr dideimlad hyn.

Pan ddaeth gŵr y tŷ adref, a chlywed yr hanes, a gweled hefyd y difrod a wnaethpwyd ar ei feddiannau, a'r perygl bywyd yr oedd ef a'i deulu ynddo, penderfynodd na oddefai yn hwy heb geisio, nid dial ar ei orthrymwyr, ond amddiffyn iddo ei hun, ac i'w deulu. Rhoddodd enwau y terfysgwyr i ŵr y gyfraith, ag oedd yn byw ar gyffiniau y Saeson, ac yn ewyllysiwr da i grefydd ac i ryddid. Daeth swyddog o sir Ddinbych i'w gwasanaethu, a gorfu arnynt ateb i orsedd Amwythig, a thalu yn llawn am y golled a wnaethant; eraill a ffoisant o'r wlad, rhag ofn cosbedigaeth drymach. Dywedir fod yn