Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan hyny, diau genyf y byddai Mr. Harris yn ymweled â chyrau o honi pryd nad âi yn mhellach i'r Gogledd, yn ychwanegol at yr amserau y byddai yn myned trwyddi i wahanol wledydd Gwynedd. Trwyddo ef, yr ydym yn deall, y galwyd Lewis Evan, a James Lewis ei frawd. Pan y daeth-y tro cyntaf erioed, mae'n debyg—i ardaloedd Llanllugan a Llanwyddelan, "yr oedd y fath nerthoedd yn cydfyned â'i weinidogaeth, nes oedd dynion (meddai un cyfaill parchedig o'r fro hóno,) yn ymrwygo ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn. Yr oedd pob pregeth i'r gŵr hwn yn y blynyddoedd cyntaf, yn foddion dwysbigiad i ryw nifer o'i wrandawyr; ac felly, codai mân eglwysi yn gyflym y ffordd y byddai ef a'i frodyr yn cyniwair."

Yr oedd cryn lawer o anwadalwch yn gysylltiedig â'r cymdeithasau bychain hyn, ac felly hefyd â'r cynghorwyr anghyhoedd. Yr oedd y cymdeithasau yn ddarostyngedig i symud eu gwersyllfa, gan y cynelid hwy mewn tai anedd, ac felly yn ddarostyngedig i lawer o gyfnewidiadau. Yr oedd llawer o'r dysgyblion hefyd yn mhell oddiwrth fod wedi eu gwreiddio a'u seilio mewn gwybodaeth na chariad: ymunent ac ymadawent â'r gymdeithas fechan weithiau yn lled ebrwydd; a hyn a ellid ei ddysgwyl, gan y byddai y teimladau yn gyffrous, a'r egwyddorion yn fâs. Yr oedd amrywiol o'r cynghorwyr hefyd, ar ol arfer eu dawn am ryw gymaint o amser, yn rhoddi hyny heibio, naill ai oblegid llwfrhau yn eu meddyliau eu hunain, neu eu cynghori i roi heibio gan eu brodyr. Mae hyn yn cael ei gadarnhau gan adroddiad arall o eiddo Richard Tibbot o agwedd y gwaith yn sir Drefaldwyn, yn mhen y flwyddyn ar ol yr un a ddyfynwyd eisoes. "Nid oes genyf (meddai) lawer o bethau neillduol yn ein plith, er pan fu ein cymdeithasfa ddiweddaf, i'w hadrodd. Nid oes neb wedi tynu yn ol yn gwbl, ac nid llawer a chwanegwyd. Mae un a fyddai yn cynghori ychydig yn Llangurig, wedi rhoddi hyny heibio yn awr, sef Evan Morgan; ond nid ydyw wedi llwyr dynu yn ol." Drachefn, efe a ddywed, "Mae y gymdeithas a ymgasglai at eu gilydd yn Llangurig wedi darfod, gan y dichon y rhai sydd yn awyddus am hyny ddyfod i'r Tyfyn; ac ychydig o arwyddion sydd fod yno waith i gael ei ddwyn yn mlaen."

Ond os oedd yno un cynghorwr wedi rhoddi heibio ei waith, efe a ddywed drachefu, fod yno rai eraill yn cymeryd ei le. "Y mae yma, yn y sir hon, (medd Tibbot,) bedwar neu ychwaneg ag sydd yn cynghori, heb gael eu holi am eu cymhwysderau; a buddiol, mi feddyliwn, fyddai i gymdeithasfa fisol ddyfod i'r Tyfyn, neu i ryw le arall, modd y gellid eu holi a'u trefnu."

Heblaw yr hanes a roddwyd eisoes am R. Tibbot a Lewis Evan, y mae crybwylliad yn cael ei wneuthur am dri eraill ag oeddynt ar y maes cyn yr ymraniad, sef Dafydd Powel, Dafydd Jehu, ac Evan Dafydd. Dechreuodd pregethu (medd yr hanesydd) yn ardal Pentyrch, yn mhlwyf Llanfair, yn fuan ar ddechre y diwygiad rhwng Harris a Rowlands, neu beth bynag, enyd cyn yr ymraniad a ddygwyddodd rhwng y gwŷr enwog hyny. Darfu i ryw nifer bychan yma, mor fore a hyn, ymneillduo oddiwrth y byd, a gwneuthur proffes gyhoeddus o'r efengyl yn nghanol cenedlaeth dywyll a thra gelynol."