bwys, plwyf Llanddoget. Enwau y pump eraill oeddynt, William Edwards, Ty-Ucha', Robert Williams, Pen-y-Graig, William Owen, Groeslon, Humphrey Thomas, Glyn, a John Richards, Bryniog-Ucha'. Naturiol ydyw ymholi, pa beth a ddaeth o'r gwŷr hyn yn ol llaw, wedi iddynt golli eu blaenor? a hyfryd ydyw ychwanegu, fod y pump hyn wedi cael eu dychwelyd trwy'r efengyl i gofleidio crefydd, a hyny cyn hir amser. Dywedir i rai o honynt, ar enciliad Howel Harris oddiwrth ei frodyr, ymfudo i Drefeca, ac iddynt dreulio yno weddill eu hoes; a bod y lleill wedi bod yn dra defnyddiol yn eu bro genedigol, i ddwyn yn mlaen y diwygiad a ddechreuasid; ac yn enwedig un o honynt, sef John Richards o'r Bryniog-Ucha'.
JOHN RICHARDS. Mae y gŵr hwn yn haeddu sylw mwy arbenig, am ei fod yn un o'r cynghorwyr cyntaf a hynotaf yn y wlad hon, ac yn rhagori, mewn rhyw bethau, ar bawb o'i frodyr lleygaidd trwy Wynedd i gyd. Yr oedd yn ŵr ieuanc iraidd a phrydferth, uwch o daldra, a chryfach ei esgeiriau, na'r cyffredin. Yr oedd John Richards yn ŵr parchus gan wreng a boneddig; gan ei fod yn fedrus yn mhob camp, ac yn ddifyrus yn mhob cwmni, edrychid arno fel blodeuyn prydferthaf y fro. Yr oedd hefyd yn ŵr o dymherau siriol a hynaws; a chyda phob peth arall, yr oedd yn brydydd rhagorol. Ond er y cyfan, rhaid addef ei fod yn dra annuwiol ei fryd, a llygredig ei foes, fel yr addef ei hun ar ol hyn yn un o'i ganiadau:—
TRI PHENNILL AR Y VOES.
Mi fum dros enyd, drwy gamsyniaeth, |