Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er mai anhawdd, os nad aumhosibl, ydyw olrhain gyda chywirdeb manwl, gamrau olynol y gwaith da, am y deng mlynedd cyntaf o'i gychwyniad; eto, y mae yn hysbys fod rhyw nifer o gynulleidfaoedd bychain wedi eu casglu yn sir Ddinbych cyn i'r ymraniad gymeryd lle yn y fl. 1751. Ond pa fodd y casglwyd hwy, na pha bryd, y mae yn anhawdd sicrhau gyda manyldra. Sicr ydyw, pa fodd bynag, fod achos gan y Methodistiaid yn ardaloedd Llanrwst, Tan-y-fron, Dyffryn Clwyd, ac Adwy'r Clawdd, wedi ei ddechreu yn fuan ar ol y fl. 1740. Yr oedd y pregethu yn y blynyddoedd cyntaf yn ansefydlog iawn; gwibiai o ardal i ardal, ac o dŷ i dŷ, gan nad oedd eto un adeilad sefydlog fel addoldy wedi ei chodi. Yr oedd Methodistiaid y pryd hwn, fel Israel yn yr anialwch, yn gwersyllu mewn pebyll, ac yn newid eu lle yn fynych. Fe enwir amrywiol leoedd o'r fath yn ardaloedd Llanrwst, lle y bu pregethu gyntaf, megys y Plas-bach yn mhlwyf Llansantffraid-glan-Conwy, Gwernbwys, Llanddoget, Tafarn-y-Fedw, a Llety-domlyn; ac yn Ardda a Brwynog, yn ochr swydd Gaernarfon. Rhoddir i mi ddarluniad o'r modd y dechreuodd Methodistiaeth yn mro Llanrwst, fel y canlyn:

Yn niwedd mis Medi, yn y fl. 1740[1], cynaliwyd gŵylmabsant Trefriw, yr hwn oedd bentref bychan rhwng dwy a thair milldir i'r gorllewin o dref Llanrwst. Y diwrnod y cynelid ef arno oedd y Sabboth. Daeth gair i'r ŵyl hon, fod gŵr dyeithr wedi myned i bregethu i dŷ anedd, o'r enw Brwynog, yr hwn oedd tua dwy filldir pellach i'r gorllewin na Threfriw; ac yn gorwedd yn dawel a dystaw mewn cwm pellenig, yn nghanol mynyddoedd cribog Arfon; lle y gallesid dysgwyl fod y trigolion yn llonydd a diofal, fel preswylwyr Lais, a lle y cawsai y pregethwr lonyddwch, o leiaf i adrodd ei genadwri, os na chai groesaw. Ond wedi i fechgyn yr ŵyl glywed fod pregeth gan un o'r penau cryniaid i fod yn y fro, penderfynodd chwech o wŷr ieuainc i adael eu difyrwch, a myned yno, nid i wrando yn bwyllog pa beth a ddywedid gan y gŵr dyeithr, a llawer llai i addoli, ond o wir fwriad i'w ladd! Cymerodd pob un o honynt ei bastwn gydag ef, gan benodi y gŵr a dybid ddewraf yn eu plith, i fod yn flaenor arnynt oll, a chytuno hefyd na ymosodent arno yn ebrwydd, ond yr ymwrandawent yn gyntaf am enyd, heb amheu. na chaent glywed ganddo yn fuan ryw ymadroddion haerllug neu gilydd, a roddai iddynt achles deg i ymosod arno. Yno yr aethant. Can gynted ag y daethant, pa fodd bynag, i swn y weinidogaeth, syrthiodd dychryn disymwth arnynt, fel ag y collodd pob llaw ei phastwn, ac y diangodd pump o honynt adref, fel rhai yn ffoi am eu bywyd, a'u blaenor yn unig a adawyd ar ol. Ymwthiodd hwn yn mlaen, i wrando pa beth a draethid gan y gŵr dyeithr; ac yn y fan, disgynodd astudrwydd arno; rhwymwyd ef megys wrth enau y pregethwr; teimlai ei ragfarn ar unwaith yn syrthio; a phrofai y gair yn llymach nag un cleddyf llym dau-finiog, yn brathu ei gydwybod ag argyhoeddiadau dyfnion. Enw y gŵr hwn oedd Dafydd Thomas, o'r Wern-

  1. Fe allai nad yw yr amseriad uchod ddim yn hollol gywir—ymddengys ei fod yn rhy foreu: ar yr un pryd, y mae yn anhawdd ei wrthbrofi.