Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt yn eistedd mewn eithaf tywyllwch, yn mro a chysgod angau. Ennillodd un Gabriel Jones, crydd, i ddyfod gydag ef i wrando, ac yntau a ennillwyd trwy air y gwirionedd i wneuthur y cyffelyb ddewisiad o Dduw a'i bobl, ag a wnaethai John Richards ei hun. Y Gabriel Jones hwn, meddir, oedd y blaenor, neu y diacon cyntaf, a fu gan y Methodistiaid yn y rhan hon o'r wlad. Buasai yn dda genym allu hysbysu i'r darllenydd, pwy oedd y pregethwyr a ddeuent i bregethu yn y wlad hon yn y dyddiau bore hyn. Ond yn hyn y mae ein hanesion yn ddiffygiol. Gwyddom fod Harris, yn awr ac eilwaith, yn cyniwair trwy Wynedd, ac fel ôg fawr yn rhwygo y tir y ffordd y cerddai; eto nid yw efe yn gwneuthur crybwylliad yn ei ddyddlyfr ei fod wedi ymweled â'r fro yma, ac nid oes genym un hanes cyson argraffedig o lawer o fanau lle y bu yn pregethu, er nad oes yr un amheuaeth, ar yr un pryd, na fu ef yn y manau hyny. Ychydig o fanau agored i dderbyn pregethu ynddynt, mewn De a Gogledd, na ymwelodd Howel Harris â hwy, yn ysbaid y tymhor rhwng 1739-51. Yn y deuddeng mlynedd hyn, ymwelodd â'r Gogledd laweroedd o weithiau, ac nid oes amheuaeth na fu ei weinidogaeth yn y rhan yma o'r dywysogaeth yn fendithiol iawn, er nad oes genym nemawr hanes am hyny. Fe allai hefyd, fod William Williams, Pant-ycelyn, a Daniel Rowlands, yn mysg yr offeiriaid, wedi rhoddi tro trwy barthau o Wynedd, oddeutu y fl. 1745. Yr oedd un Benjamin Thomas hefyd yn mhlith y Methodistiaid y pryd hyny, yr hwn a dderbyniasai ordeiniad ymneillduol, ond a lafuriai yn deithiol ar hyd y gwledydd. Yr oedd Lewis Evan, a Richard Tibbot, o sir Drefaldwyn, eisoes yn pregethu yn eu cylch priodol o leiaf; ac fe ddichon eu bod yn dechreu ymweled â siroedd Gwynedd tua'r fl. 1745. Yr oedd dau neu dri o gynghorwyr wedi tori allan i rybuddio eu cyd-ddynion, tua Lleyn yn sir Gaernarfon. Ond pwy o'r gwŷr hyn, neu rywrai eraill anadnabyddus i ni, a fu yn ymweled ag ardaloedd Llanrwst yn yr amser a nodir uchod, sydd anhawdd iawn i'w gael allan gydag un math o sicrwydd a chywirdeb, ac ofer fyddai ceisio dyfalu.

Yn y fl. 1749, meddir, y dechreuodd John Richards bregethu. Yr oedd hyn ddwy flynedd cyn yr ymraniad, a phan oedd yntau yn 29 mlwydd oed. Trwy ei weinidogaeth, torodd goleuni ar y fro dywell ac ofergoelus. Pregethai yn fynych yn Nghoed-y-Garth, Tafarn-y-Fedw, mynwent Capel Garmon, Llanddoget, Llanbedr, Crafnant, Gartheryr, Bettws-y-Coed, a Lletydomlyn. Yr oedd John Richards mor barchus, fel na feiddiai neb ei erlid mewn un man. Yr oedd yn ymresymwr cadarn, ac o ddoniau rhwydd ac ennillgar iawn. Trwy y fath ddyn, fe gafodd y diwygiad swcr da, a hyny mewn amser gwanaidd arno; a bu yn offeryn defnyddiol i rwyddhau ei fynediad yn mlaen tra y bu ef byw. Ni chyfarfyddai gweinidog y plwyf â John Richards un amser heb gyfarch gwell iddo; a'i dystiolaeth gyson am dano fyddai, "Yr wyf yn credu fod John Richards yn ŵr duwiol." Gellid meddwl fod pregethu mwy cyson erbyn hyn yn yr ardaloedd cymydogaethol, ac yn enwedig yn y lle a elwid y Crafnant, gan y rhoddwyd yr enw, "Penau