Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael rhyw ddosbarth o wlad, ac i'r cynghorwyr anghyhoedd (private) fwrw golwg dros un neu ddwy gymdeithas, a dylyn eu galwedigaeth arferol ar yr un pryd, bod rhyw ychydig, wedi eu bwriadu, tybygid, trwy eu doniau, a'r modd y bendithiwyd hwy, &c., i fod yn gymhorth i'r arolygwr, mewn modd mwy cyffredinol."

Ymddengys oddiwrth y dyfyniad uchod, mai yn y fl. 1742 y cytunwyd ar un math o drefn benodol; fod pregethwyr a chynghorwyr eisoes ar waith mewn gwahanol ranau o'r wlad; a bod ymholi wedi bod eisoes i'w cymhwysderau; ond na chytunasid ar un ffurf neillduol mewn perthynas i'r modd yr edrychid arnynt, ac i'r lle neillduol y dysgwylid i bawb o'r brodyr hyn ei lenwi, hyd y fl. 1742. Ni chyfyngid y brodyr urddedig i'r naill le mwy na'r llall; ond gadewid hwy at eu rhyddid, i farnu pa gan leied, neu pa gan gymaint yr aent oddicartref. Am y brodyr eraill, yr oedd rhai o honynt i arolygu dosbarth o wlad; eraill, un neu ddwy o gymdeithasau; ac ambell un o honynt i gynorthwyo Harris mewn arolygiaeth gyffredinol. Ond fe ymddengys nad oedd y ffurf hon yn cael ei golygu yn sefydlog a digyfnewid, ond i aros hyd nes y rhoddid rhyw awgrym pellach i'r brodyr, pa beth a fynai Duw iddynt ei wneuthur yn ychwanegol.

Fe wel y darllenydd ddarfod anfon am Mr. Whitfield i Gymru ar hyn o bryd; amgylchiad a brofa fod diwygwyr Cymru a Lloegr yn cydnabod eu gilydd fel cydweithwyr yn yr un gwaith, yn dal yr un syniadau, dan ddylanwad yr un Ysbryd, ac yn ymgais at gyrhaedd yr un dyben. Yr oeddynt wedi taro allan o eglwys Loegr tua'r un amser, ac mewn cyffelyb fodd, er na wyddent, ar y dechre, ddim am eu gilydd. Yr oeddynt hefyd yn cydddyoddef llawer oddiwrth erlidwyr a gwawdwyr: yr oedd yr amgylchiadau hyn, a'r cyffelyb, yn tueddu yn naturiol i'w cylymu wrth eu gilydd, ac i beri iddynt ymofyn am gynorthwy a chymdeithas y naill y llall. Yr oedd rhyw gyd-darawiad hynod yn aidd tanllyd eu hysbrydoedd, a rhyw gyffelyb rwydd nodedig yn yr arddeliad a roddasai y Goruchaf ar eu gweinidogaeth, fel na allent lai, wedi deall hanes eu gilydd, nag ymgydnabod fel brodyr, ac ymserchu yn eu gilydd fel cydgynorthwywyr i'r gwirionedd.

Yn y fl. 1738 y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf yn mhlith Methodistiaid Lloegr. Cyfarfyddai y gymdeithas hon mewn adeilad barchus, ond diaddurn, a berthynai i'r Morafiaid, yr hwn a safai yn Neville's Court, Feller Lane, Llundain. Yn yr addoldy hwn yr arferai Wesley, Whitfield, Ingham, Howel Harris, a llawer eraill, bregethu gyda nerth anarferol, a chyda llwyddiant rhyfeddol. Yr oedd Mri. Cennick ac Oakley yn aelodau o'r gymdeithas hon, ac i'r lle hwn y daeth Iarll ac Iarlles Huntingdon gyntaf i undeb â'r Methodistiaid. Mwynhaent yma eu cariad-wleddoedd, a chyd-annogent eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. Mwynhaent dymhorau rhyfeddol yn y lle hwn, o lewyrchiadau tanbaid o wyneb yr Arglwydd, nes y byddent yn orlawn o lawenydd. Gan gyfeirio at un o'r tymhorau hyn y dywed Mr. Whitfield," Yr oedd yn bentecost yn wir arnynt; treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn gweddiau; llawer gwaith y llanwyd hwy megys o win