Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd, a mynych y gwelais hwy wedi eu llwyr orchfygu gan y presenoldeb dwyfol, ac yn tori allan i lefain, Ai gwir yw y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Mor ofnadwy yw y lle hwn! Nid oes yma onid tŷ i Dduw, ac wele yma borth y nefoedd!'" "Oddeutu tri o'r gloch y bore (meddai Mr. Wesley, gan gyfeirio at yr un cyfarfodydd), fel yr oeddym yn parhau mewn gweddi, daeth gallu Duw arnom mor rymus, nes y gwaeddai llawer allan gan wir lawenydd, a llawer a syrthient i'r llawr."

Yn Nghymru, Howel Harris oedd y pregethwr teithiol diurddau cyntaf, ac un Mr. Maxfield oedd y cyntaf yn Lloegr. Cychwynasai Harris ar y gwaith heb annogaeth oddiwrth neb, a chafodd ei annog i fyned yn mlaen, trwy yr arwyddion a roddai Duw iddo o'i foddlonrwydd a'i bresenoldeb. Dechreuodd Maxfield trwy fod ar Mr. Wesley angen am gynorthwy pan âi ef ei hun oddiwrth y gynulleidfa, ar ryw neges bwysig. Pan y galwyd ef unwaith i fyned o Lundain, gosododd Maxfield, gan na allai gael yr un clerigwr, i weddio gyda'r bobl, ac i'w cynghori. Fel hyn y dechreuodd Mr. Maxfield yn Llundain, a'r un modd Cennick yn Kingswood. Ni ddysgwyliasai Mr. Wesley i Maxfield wneyd dim ond gweddio a chynghori; ond cam bychan oedd rhwng y cynghori a'r pregethu, a rhyfeddol y llwyddiant a goronai ei bregethau. Ordeiniwyd y gŵr hwn ar ol hyn gan esgob Derry, ar gais Mr. Wesley. Pan ddechreuodd bregethu, meddyliodd llawer ei fod yn cymeryd arno swydd na ddylasai; ac archwyd ar Mr. Wesley i roddi terfyn ar y fath afreolaeth, a dymunwyd arno brysuro i Lundain i hyny. Yr oedd mam John Wesley yn y cyfamser wedi gwrando ar Maxfield yn pregethu; ac wedi iddi ddeall fod amcan gan ei mab i'w luddias, hi a ddywedodd, "John, chwi a wyddoch pa fath a fyddai fy syniadau i; nis gallwch feddwl fod ynof fi un duedd i roddi gwyneb byrbwyll i ddim o'r fath; ond cymerwch ofal pa beth a wnewch i'r dyn ieuanc yma, oblegid y mae wedi ei alw gan Dduw i bregethu, mor ddiamhenol a chwithau. Edrychwch i'r ffrwyth sydd i'w bregethau, a mynwch ei glywed ef eich hunan." Yn ol ei gallineb arferol, efe a gydsyniodd â chais rhesymol ei fam; ac wedi clywed Maxfield yn pregethu, gorchfygwyd yntau, a dywedodd, 'Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' " Cafodd ar ol hyn, fel y dywedwyd, ei urddo gan esgob, a bu yn enwog am ei lafur a'i lwyddiant am lawer o flynyddoedd. Ymadawodd â Mr. Wesley, yr hyn a barodd ochenaid drom i'r olaf, a dygodd i'w ganlyn chwe chant o aelodau Mr. Wesley.

Ar ol derbyn Mr. Maxfield i'r weinidogaeth yn y modd y gwnaed ar y cyntaf, daeth eraill hefyd i ymofyn am ganiatad i bregethu; ac wedi eu holi, a chael boddlonrwydd yn eu cymhwysderau, derbyniodd Mr. Wesley ewyllysgaryddion o'r fath, fel "plant yn yr efengyl," ond bob amser ar yr ammod iddynt lafurio lle y trefnai efe iddynt, rhag, heb hyny, y byddai y naill yn sefyll yn ffordd y llall.

Yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn Nghymru, yr oedd yn bresenol, -o eglwyswyr urddedig, George Whitfield, Daniel Rowlands, William Williams, a John Powell. O bregethwyr diurddau, yr oedd yn bresenol,