Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Howel Harris, Joseph Humphreys, Jolin Cennick, Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, John Jones, Benjamin Thomas, Thomas Lewis. Yn y gymdeithasfa hon, dewiswyd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Edrychid ar y pedwar gweinidog uchod, a'r tri cyntaf o'r pregethwyr, sef Howel Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, yn ffurfio bwrdd sylfaenol y gymdeithasfa; a thrwy eu penderfyniad unllais hwy y gosodid y lleill yn eu lle. Felly cytunwyd,—

"1. Fod y brodyr canlynol i fod yn bregethwyr cyhoeddus,-Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, Thomas Lewis.

"2. Fod Richard Tibbot i fod yn ymwelwr cyffredinol â'r mân gyfarfodydd eglwysig (bands).

"3. Fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyhoedd (private exhorters):-James Williams, Morgan Hughes, Dafydd Williams, Rhys Thomas, John Powell, William Evans, William Morgan, Harri Harris, Thomas Prys, William Powel, Stephen Jones, Thomas Lewis, Howel Griffith, Richard Thomas, John Belcher, Evan Thomas, William Rhys, Thomas Evans, Richard Jones, Charles Powel, John Jones, Morgan John, William Harris, John Richard.

"4. Fod i'r brodyr a betrusent dderbyn y cymun yn yr eglwys (Loegr) ar gyfrif annuwioldeb y gweinyddwyr a'r derbynwyr, ac yn mhlith yr ymneillduwyr ar gyfrif eu clauarineb, barhau i'w dderbyn yn yr eglwys, hyd nes yr agoro yr Arglwydd ddrws amlwg i adael ei chymundeb.

"5. Na fyddai i'r un cynghorwr gael ei gyfrif yn un o honom ni, ond a brofid ac a gymeradwyid; ac na fyddai i neb fyned hwnt i'w derfynau penodol, heb ymgynghoriad blaenorol.

"6. Fod i bob cynghorwr ddwyn hanes ei gymdeithasau priodol, ac o'r rhai a dderbynir iddynt, i'r gymdeithasfa nesaf, yr hon a gynelir y Mercher cyntaf ar ol y 25ain o Fawrth, 1743."

Y cyfryw oedd penderfyniadau y gymdeithasfa gyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn Waterford, neu Watford, yn sir Forganwg, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. At yr amser hwn yn ddiau y cyfeiria Williams o Bant-y-celyn yn y farwnad a wnaeth i Rowlands:--

Dyma'r pryd daeth Whitfield enwog,
Ar adenydd dwyfol ras,
Lawr i Gymru i gael profi
Y newydd win o ddwyfol flas:
Dyma'r pryd yr hyfryd asiwyd,
O fewn ffwrnes fawr y nef,
Sais a Chymro mewn athrawiaeth,
Loyw, ddysglaer, gadarn, gref.

Dyma'r pryd, boed cof am dano,
Ganwyd yr Assosasiwn fawr,
Ag sy' er hanner cant o flwyddau
Yn cadw fyny hyd yn awr;
Yn gwneyd undeb athrawiaethau,
Ac yn c'lymu cwlwm crwn,
Nas gall rhagfarn na drwg dybiau,
Fyth i ddattod dim o hwn.